Ein panel cwsmeriaid cyntaf ar waith!

Published on:

Roedd y mis diwethaf yn nodi carreg filltir fawr i ni, dechrau swyddogol ein hymgyrch Rwyf i Mewn, a chyfarfod cyntaf ein Panel Cwsmeriaid newydd yn Nhŷ Bryngarw.

Mae’r panel yn dod â chwsmeriaid a chydweithwyr at ei gilydd i roi un syniad syml ar waith: os yw’n effeithio arnoch chi – ein cwsmeriaid – dylai fod gennych chi lais ynddo.

Sut olwg sydd ar ddyfodol y panel?

Gan ddechrau fel rydym yn bwriadu parhau, fe wnaethom ddechrau’r sesiwn trwy ofyn sut rydych chi am i’r panel weithio, beth rydych chi am ei weld ar yr agenda, a ble y dylid cynnal cyfarfodydd yn y dyfodol.

Dywedoch eich bod am gael: “Tryloywder, gyda chipolwg cliriach ar y broses o wneud penderfyniadau, cyllidebau, a chynlluniau, ac i fod yn rhan o’r broses cyn i benderfyniadau gael eu gwneud, nid ar ôl
hynny.”

Rydych chi’n gweld y panel fel lle i:

● Ddal ni i gyfrif
● Gofyn y cwestiynau anodd
● Deall y “pam” y tu ôl i’n polisïau
● Ymgysylltu’n uniongyrchol ag uwch-arweinwyr.

Dywedoch hefyd eich bod am fod yn rhan weithredol trwy ddarllen proflenni cylchlythyrau, ymuno â hyfforddiant, a chlywed yn uniongyrchol gan dimau allweddol mewn gofod parchus.

Trafod popeth sy’n ymwneud ag addasiadau!

Ar ôl egwyl fer o gymdeithasu a bwyta pastiod, symudon ni ymlaen at y pethau pwysig – trafod sut i wella ein Polisi Addasiadau newydd.

Rhannodd Alex, ein Rheolwr Gwaith Bach ac Atgyweiriadau, ein polisi newydd gyda chi cyn y cyfarfod ac yna gofynnwyd i chi am eich barn. Bydd y polisi yn mynd am gymeradwyaeth gan y bwrdd yn fuan, gyda chynlluniau i gael sêl bendith cwsmeriaid hefyd.

“Mae’n ddigon hamddenol – ac nid marwolaeth trwy PowerPoint!”

Roedd yn sesiwn gyntaf dda iawn, ac rydym yn edrych ymlaen at yr un nesaf ar 22ain Gorffennaf! Ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, dyma bopeth roeddech chi’n ei garu am y sesiwn gyntaf.