Mae cartref diogel a fforddiadwy yn sylfaen i fywyd gweddus, felly rydym yn falch iawn o groesawu 56 o bobl i’n datblygiad newydd ym Mlaenllynfi. Bydd teuluoedd, cyplau ac unigolion yn bwrw gwraidd ym Mhen-y-bont ar Ogwr diolch i’r 14 o fflatiau un llofft a’r chwe thŷ 2 i 4 llofft sydd ar gael. Mae saith o’r fflatiau ar y llawr gwaelod gan gynnwys ystafelloedd gwlyb ar gyfer pobl â symudedd cyfyngedig.

Costiodd y cartrefi tua £3.5 miliwn, gyda 65% o hyn yn cael ei ariannu gan Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Drwy gynnig cymysgedd o gartrefi, byddwn yn cynhyrchu mwy o incwm rhent, y gallwn ei ail-fuddsoddi yn ein cartrefi presennol.

Mae cartrefi gweddus yn hanfodol i’n hiechyd a’n llesiant, felly mae’r eiddo hyn wedi’u neilltuo gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr i’r rhai sydd ag angen mwyaf am gartref fforddiadwy, gan gynnwys pum teulu â chysylltiadau cryf â Maesteg.

Ac mae mwy o newyddion da – mae Pendragon wedi cyfrannu £7,830 mewn buddion cymunedol. Mae £2,000 o hyn wedi mynd i Brosiect Cymunedol Noddfa, menter leol sy’n cynnig cyfleoedd i blant ac
oedolion gael mynediad at weithgareddau, dosbarthiadau, a dysgu ffurfiol neu achrededig. Mae £5,830 yn cael ei gyfrannu at gronfa gymunedol newydd y byddwn yn ei lansio yr hydref hwn!

Cartrefi sy’n helpu pobl a’r blaned

Mae’r cartrefi wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern, gan gynnwys fframiau pren adnewyddadwy sydd wedi’u cydosod o flaen llaw, gan leihau ôl-troed carbon yr eiddo.

Mae’r cartrefi hefyd wedi cyflawni sgôr ynni drawiadol o EPC-A, a fydd yn helpu cwsmeriaid i arbed arian drwy gadw eu costau cyfleustodau yn isel.

Rydym hefyd wedi dewis pympiau gwres ffynhonnell aer yn hytrach na gwres nwy traddodiadol yn y cartrefi, gan gefnogi ein huchelgais i ddatblygu tai sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Croeso cynnes

Rydym yn cynllunio digwyddiad croeso i’n cwsmeriaid newydd i’w gynnal ar 23ain Gorffennaf. Bydd yn gyfle iddynt ddod i’n hadnabod ni a’i gilydd, ac i deimlo’n rhan o’r gymuned.

Byddwn hefyd yn dangos y datblygiad i aelodau newydd ein Bwrdd ar ein taith fws ym mis Awst. Ac, rydym yn mynd i agor y safle’n swyddogol gydag aelodau o’n Bwrdd, cwsmeriaid, a chynghorwyr ar 3ydd Medi!

Rydym yn falch o’r datblygiad hwn ac o ddarparu lle diogel a chyfforddus i fwy o bobl ei alw’n gartref.