Gwyddom pa mor bwysig yw cael mannau gwyrdd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda lle rydych chi’n byw, ac rydym yn deall y gall fod yn aneglur pwy sy’n gyfrifol am beth.
Felly, siaradwyd â’n tîm Ystadau a gofyn y cwestiynau mwyaf cyffredin iddynt er mwyn egluro pethau:
Pa ardaloedd rydyn ni’n eu torri?
Mae ein contractwyr cynnal a chadw tiroedd yn torri’r glaswellt sydd o dan ein perchnogaeth ni ac sy’n cael ei ystyried yn ofod agored.
Mae cynnal a chadw’r glaswellt o fewn eich gardd eich hun neu ardd gymunol a rennir yn rhywbeth sy’n dod o dan eich cyfrifoldeb chi fel tenant, fel y nodir yn eich cytundeb tenantiaeth. Mae hyn yn caniatáu i chi ofalu amdano mewn ffordd sy’n addas i chi.
Pa mor aml ydyn ni’n torri’r glaswellt?
13 gwaith ym mhob tymor torri. Fel arfer, mae hyn bob 2 i 3 wythnos rhwng mis Ebrill ac mis Hydref, os bydd y tywydd yn caniatáu.
Pam nad ydym ni’n torri a chasglu’r glaswellt?
Er mwyn cadw eich taliadau gwasanaeth mor isel â phosibl.
A fydd y llwybrau’n cael eu hymylu a’u glanhau o fwsogl?
Rydym yn gweithio ar hyn – byddwn allan ar ein hystadau yn fuan i wneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol ar ein llwybrau.
Pryd fyddwn ni’n torri’r llwyni yn ôl?
Ar hyn o bryd, mae hyn yn cael ei wneud drwy gydol y flwyddyn, ond rydym yn gweithio ar raglen lle bydd y gwaith torri yn digwydd dwywaith y flwyddyn, fel arfer rhwng mis Mawrth ac mis Mai ac eto rhwng
mis Medi ac mis Tachwedd.
Pa lwyni ydyn ni’n eu torri?
Y rhai sydd yn ein mannau agored. Cyfrifoldeb y cwsmer yw cynnal a chadw llwyni/gwrychoedd mewn gardd, yn unol â’r cytundeb tenantiaeth.
Sut mae rhoi gwybod am ardal sydd wedi’i methu neu holi am y mannau agored?
Cysylltwch â’n staff cyfeillgar Hyb ar 0300 123 2100 gyda’r manylion, gan gynnwys yr union leoliad a’ch ymholiad. Bydd yr Hyb yn trosglwyddo hyn i’n tîm Ystadau i’w weithredu.