Rydym yn falch iawn o gyflwyno aelodau diweddaraf ein Bwrdd: Leanne Richards, Ben Allwright, Peter Max ac Andy Rafferty.
Ond yn gyntaf, beth mae’r Bwrdd yn ei wneud?
Y Bwrdd a’i bwyllgorau sydd â’r awdurdod a’r atebolrwydd eithaf o ran rhedeg y sefydliad er budd ein cwsmeriaid, cymunedau a’n cydweithwyr.
Maent yn cwrdd yn rheolaidd i drafod ein strategaeth, ein perfformiad a’n sefyllfa ariannol, yn darparu cymorth ac yn rhoi heriau adeiladol i’r tîm arwain.
Bydd y penodiadau cyffrous hyn yn dod â safbwyntiau a phrofiad newydd i’n tîm arwain i’n helpu i ddygymod â heriau’r dyfodol.
Cyflwyniad cyflym i:
Leanne Richards
Mae Leanne yn weithiwr proffesiynol caffael dawnus ac ymroddgar sydd ag un mlynedd ar bymtheg o brofiad ym myd amddiffyniad, niwclear, gweithgynhyrchu trwm, iechyd, tai cymdeithasol, olew a nwy. Yn y gorffennol, mae Leanne wedi gwasanaethu fel Is-gadeirydd Pwyllgor Cangen y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) ac fel Arholwr CIPS.
Mae hefyd yn awdur un o lyfrau cwrs swyddogol CIPS – Rheoli Perthnasoedd Cyflenwyr (Lefel 4) – ac mae wedi awduro cyhoeddiadau caffael eraill. Ar hyn o bryd, mae’n datblygu strategaeth gaffael ar gyfer cyfleuster niwclear, a chyn hynny roedd ganddi uwch rôl mewn cyrchu a chylch bywyd contractau yn Tata Steel.
Mae Leanne yn mwynhau ymlacio a threulio amser gyda’i theulu ifanc y tu allan i’w gwaith.
Ben Allwright
Ymunodd Ben â’n bwrdd yn Ebrill 2025, gan ddod â dros 30 mlynedd o brofiad mewn marchnadoedd TG rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Sefydlol ac yn Brif Swyddog Gweithredol Spectrum Fibre Ltd (Ogi) yma yng Nghymru, gan arwain yr ymgyrch i ddod â chysylltedd ffibr llawn i gartrefi a busnesau ar draws De Cymru – profiad sy’n uniongyrchol berthnasol i’n huchelgeisiau digidol.
Cyn Ogi, roedd Ben yn Is-lywydd Byd-eang Teleste, yn rheoli amrywiol dimau ac yn gyfrifol am Elw a Cholled mewn swyddfeydd ar draws Ewrop. Cydnabuwyd ei gyfraniadau yn y maes technoleg ddwywaith yn 2024 gyda Gwobr Cyfraniad Eithriadol i’r Diwydiant INCA a gwobr Cyfarwyddwr Busnes Newydd y Flwyddyn gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) Cymru.
Yn ei amser sbâr, mae diddordebau Ben yn cynnwys adfer a rasio ceir clasurol, hedfan, pêl-droed, badminton, a theithio.
Peter Max
Mae Peter yn dod â chraffter ariannol a phrofiad llywodraethu sylweddol i’n Bwrdd. Dechreuodd ei yrfa fel cyfrifydd siartredig, gan ganolbwyntio ar y gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, cyn symud i fyd cyllid corfforaethol ac ecwiti preifat am bedair blynedd.
Ar hyn o bryd, mae Peter yn gwasanaethu fel Aelod o’r Bwrdd Anweithredol ar gyfer Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, lle mae hefyd yn cadeirio’u Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Mae hefyd yn gwirfoddoli ei arbenigedd ar ddau fwrdd cynghorol Cymreig: Arolygiaeth Gofal Cymru a Marie Curie. Ymunodd Peter â ni fel Aelod o’r Bwrdd a Chadeirydd ein Pwyllgor Archwilio a Risg ym mis Ebrill 2025.
Y tu allan i’w dyletswyddau proffesiynol, mae Peter yn mwynhau chwarae tennis, pêl-bicl a phadel, cerdded ei gŵn, a cheisio cystadlu â’i blant sydd yn eu harddegau yn y gampfa.
Andy Rafferty
Mae Andy yn weithredwr digidol a thechnoleg dawnus gyda phrofiad helaeth ar fyrddau a rheolaeth ar y lefel weithredu. Ymunodd â’n bwrdd yn Ebrill 2025.
Yn fwy diweddar, treuliodd Andy chwe blynedd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Gwella Busnes a Thechnoleg i Ymddiriedaeth Tai Weaver Vale, lle datblygodd ymagwedd strategol at TG a chyflawni newid sylweddol – gan ddod â phrofiad o arweinyddiaeth technoleg uniongyrchol yn y sector tai i’n bwrdd. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Risg ac Archwilio ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer The Big Life Group, sef elusen sy’n ymladd anghydraddoldeb. Cyn hynny, roedd gan Andy amrywiol uwch rolau TG yn Booths Supermarkets.
Yn ei amser hamdden, mae Andy yn gwirfoddoli mewn sinema gymunedol untro, yn cerdded ei gi sy’n fwyfwy sarrug, a meddwl am esgusodion creadigol i osgoi mynd i’r gampfa.
Mwy o wybodaeth ynglŷn ag aelodau ein bwrdd