Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella eich profiad gyda ni, a dyna pam ein bod ni’n lansio Dydd Mawrth Dweud Eich Dweud – ffordd o’n helpu i ddeall yn well beth sy’n gweithio’n dda a ble mae angen i
ni wneud yn well.
Ar hyn o bryd, mae 65% o gwsmeriaid yn dweud eu bod yn fodlon ar ein gwasanaethau. Er bod hynny’n ddechrau da, rydym yn credu bod lle i dyfu. I wella, mae angen i ni wybod dau beth allweddol:
● Beth rydym yn ei wneud yn iawn?
● Beth y gallen ni ei wneud yn well?
Dyna le mae Dydd Mawrth Dweud Eich Dweud yn dod i mewn.
Pwy fyddwn ni’n ei ffonio?
Byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid sydd wedi cwblhau arolwg boddhad trwy ein partner arolwg annibynnol, Acuity, ac sydd wedi rhoi sgôr gyffredinol o naill ai ‘bodlon iawn’ neu ‘anfodlon iawn’ i ni.
Pryd fyddwn ni’n ffonio?
Byddwn yn gwneud y galwadau hyn ar ddydd Mawrth, pan fydd gan ein tîm y gallu gorau i wneud galwadau allan heb effeithio ar ein gwasanaethau craidd.
Dyma sut mae’n gweithio:
● Byddwn yn gwneud galwadau cychwynnol yn ystod y ddau ddydd Mawrth cyntaf pob mis.
● Os na fyddwn yn cael afael ar rywun, byddwn yn ceisio eto yn ystod y ddau ddydd Mawrth nesaf.
● Yn dibynnu ar nifer y cwsmeriaid, efallai y bydd angen i ni ledaenu galwadau dros sawl dydd Mawrth.
Pam rydym ni’n ffonio?
Rydym am:
● Ddathlu ac adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda
● Deall ble gallwn ni wella
● Trwsio perthnasoedd â chwsmeriaid sydd wedi cael profiad gwael
● Casglu data gwerthfawr ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a
Chynhwysiant (EDI) i’n helpu i’ch gwasanaethu’n well
Beth fyddwn ni’n ei wneud â’ch adborth?
Bydd eich adborth yn mynd yn syth i’r timau sy’n darparu ein gwasanaethau. Bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio Sesiynau Ffocws ar Foddhad Cwsmeriaid, lle bydd rheolwyr a thimau yn:
● Clywed yn union beth y mae cwsmeriaid yn ei ddweud
● Trafod sut i wneud gwelliannau
● Gweithredu i sicrhau canlyniadau gwell i chi
Byddwn hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon i wella sut rydym yn cyfathrebu drwy ein gwefan, cylchlythyrau a sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan sicrhau bod gennych wybodaeth glir a chywir am sut rydym yn gweithio.
Dydd Mawrth Dweud Eich Dweud yw ein hymrwymiad i chi, i fod yn fwy ymatebol, yn fwy gwybodus, ac i ganolbwyntio mwy ar ddarparu’r gwasanaethau rydych chi’n eu disgwyl ac yn eu haeddu. Mae eich llais yn helpu i lunio sut rydym yn gweithio, ac rydym yma i wrando.