Yn ddiweddar, ymwelodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, â’n cartrefi newydd yn Rhondda Cynon Taf i weld drosti ei hun sut mae cyllid arloesol yn ein helpu i ddarparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen.

Cymuned newydd lewyrchus

Mae’r cartrefi hyn yn rhan o ddatblygiad trawsnewidiol a fydd yn dod â thros 1,000 o gartrefi newydd, ysgol gynradd, a chanolfan bentref fywiog i’r ardal.

Mae effaith benthyciadau llog isel sy’n werth £90m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fel ni yn helpu i gefnogi’r gwaith o ddarparu 277 o gartrefi fforddiadwy ledled Cymru, ynghyd â gwaith gwella i 4,397 o gartrefi presennol.

Yn ystod yr ymweliad, tynnodd Ysgrifennydd y Cabinet sylw at bwysigrwydd tai fforddiadwy ac ynni-
effeithlon, gan nodi:

“Mae’r cartrefi yma ym Michaels Grove yn enghraifft o bŵer gwirioneddol y math hwn o gyllid i ddarparu cartrefi hardd sy’n fforddiadwy i’w rhedeg ac sy’n cyfoethogi ein cymunedau.

“Mae arnom angen mwy o gartrefi fforddiadwy ac ynni-effeithlon nawr ac ar gyfer y dyfodol, ac mae mor bwysig ein bod yn parhau i archwilio ffyrdd arloesol o gynyddu’r cyflenwad o dai ar gyfer unigolion a theuluoedd ledled Cymru.”

Mynegodd Prif Weithredwr ein Grŵp, Jo Oak, ei diolch am y gefnogaeth:

“Mae’r cyllid hwn wedi caniatáu i ni sicrhau naw cartref ychwanegol i deuluoedd fel rhan o gaffaeliad ehangach o 20 o gartrefi ar y safle datblygu cymysg hwn.

“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth i’n galluogi i ddarparu’r atebion tai
fforddiadwy gorau posibl a chefnogaeth i bobl leol, gan ein helpu i greu cartrefi a chymunedau diogel a hapus lle mae ein cwsmeriaid yn teimlo eu bod yn perthyn.”

Cipolwg ar y tu mewn i’r eiddo