Yr wythnos diwethaf, roeddem yn falch o fynychu lansiad menter Tai ar y Cyd ochr yn ochr â landlordiaid cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, ac arbenigwyr yn y diwydiant adeiladu.
Partneriaeth dros gynnydd
Mae’r prosiect yn dod â 23 o gymdeithasau tai at ei gilydd sy’n rhannu nod cyffredin o ddarparu cartrefi fforddiadwy, o ansawdd uchel ond carbon isel yng Nghymru – ac rydyn ni’n rhan ohono!
Mae’r cartrefi hyn wedi’u dylunio i fodloni’r safonau uchaf o ran perfformiad carbon isel, wedi’u llywio gan lyfr patrwm sy’n cynnwys dyluniadau ar gyfer 15 math o dŷ, gan gynnwys byngalos sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.
O fudd i bobl a’r blaned
Dyma bum ffordd y bydd y fenter yn creu newid cadarnhaol:
- Bydd y cartrefi yn y llyfr patrwm y cael eu hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau naturiol, gan gynnwys pren o goedwigoedd Cymru, a fydd yn lleihau allyriadau carbon.
- Trwy groesawu technegau adeiladu blaenllaw a lleihau allyriadau, bydd tenantiaid yn arbed arian ar filiau ynni.
- Dylai’r dyluniadau a’r dulliau a nodir yn y canllaw dylunio gyflymu’r broses adeiladu, fel y gellir adeiladu cartrefi ar gyfradd gyflymach.
- Bydd defnyddio adnoddau lleol o fudd i’n heconomi, gan greu swyddi gwyrdd a chyfleoedd hyfforddi.
- Mae’r dyluniadau yn bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Eisiau dysgu mwy?
Gallwch ddarllen manylion y prosiect yma!