Dros ddau ddiwrnod yr wythnos diwethaf, bu staff, plant ysgol a thrigolion Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio’n galed i blannu 1,000 o goed yn Heol-y-Frenhines.
Coedwig Fechan, effaith enfawr
Mae Coedwig Fechan (Tiny Forest) yn goetir bach, tua maint cwrt tenis, sy’n cael ei blannu gan ddefnyddio dull Miyawaki o Japan.
Maent yn dod â manteision coetir i fannau trefol, gan wella ansawdd yr aer, cyfrannu at reoli llifogydd a rhoi hwb i iechyd meddwl. Rydym wedi cael grant gan Lywodraeth Cymru i blannu dwy Goedwig Fechan yn ein cymuned leol – ac roedd trigolion yn gyffrous i ddechrau ar y goedwig gyntaf yr wythnos diwethaf.
Ar 13eg Tachwedd, ymunodd 160 o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Llangewydd â ni i blannu coed gyda chymorth Megan a Hannah o Earthwatch Europe.
Roedd ein Prif Weithredwr, Joanne Oak, hefyd yn bresennol yn y sesiwn gyntaf a phlannodd goeden dderwen.
Y ffigyrau terfynol
Dros y ddwy sesiwn, ymunodd dros 340 o bobl â ni a phlannwyd 1,200 o goed! Roedd yn braf iawn gweld aelodau ieuengaf y criw yn awyddus i fwrw ati hefyd.