Y mis diwethaf, roeddem yn falch o gael rhannu ein hymagwedd at gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant yn ein sefydliad, yn ystod ein Cynhadledd Pen-blwydd. I gadarnhau ein hymrwymiad,
rydym wedi partneru â Heddlu De Cymru i gynnal hyfforddiant trosedd gasineb.


Mae’r fenter hon nid yn unig yn ymwneud ag ymwybyddiaeth, ond hefyd â chamau gweladwy, ystyrlon
y gallwn eu cymryd i gefnogi ein cydweithwyr, cwsmeriaid a’n cymunedau os ydynt yn dod ar draws
troseddau casineb.


Yn ein rolau yn Nhai Cymoedd i’r Arfordir, rydym yn aml yn ymweld â chartrefi ein cwsmeriaid neu’n
cydymweithio â’r gymuned. Mae’r rhyngweithio hwn yn rhoi cyfle i ni adnabod troseddau casineb neu
arwyddion o’r fath weithgareddau. Dyma ble mae ein hymrwymiad i fod yn sefydliad cyfrifol a gofalgar
yn dod ar waith.

Pam mae hyfforddiant trosedd gasineb yn bwysig i ni?
Trwy gael dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn mae trosedd gasineb yn ei olygu, rydym yn dod yn fwy cymwys i’w hadnabod pan fyddwn yn dod ar ei thraws.


Fel unigolion sy’n aml yn gweithio yn y maes, mae deall sut i drin sefyllfaoedd sy’n ymwneud â throseddau casineb yn hanfodol ar gyfer sicrhau diogelwch a llesiant ein cwsmeriaid, a ni ein hunain.

Mae adnabod ac adrodd am droseddau casineb yn gam canolog wrth gynnig cymorth i ddioddefwyr a
dal y cyflawnwyr i gyfrif. Mae ein gweithredoedd ni yn gallu gwneud gwahaniaeth ym mywydau’r rhai
sydd angen cymorth fwyaf.


Drwy fod yn hyddysg yn nhroseddau casineb, gallwn gyfrannu at greu cymuned ddiogelach, fwy cynhwysol, a mwy goddefgar.


Dydy ein taith ddim yn diweddu gyda’r hyfforddiant – dechrau’r daith yw hwn. Rydym yn ymrwymedig i addysg a gweithredu parhaus. Trwy gydweithio tuag at greu amgylchedd cynhwysol a diogel, rydym yn cryfhau’r clymau agosrwydd yn ein sefydliad, gyda’n cwsmeriaid ac mewn cymunedau.


Os ydych yn gweld trosedd yn digwydd lle rydych yn teimlo bod rhywun mewn perygl uniongyrchol ac
mae angen cymorth arnoch ar unwaith, gallwch gysylltu â Heddlu De Cymru drwy alw 999. Os nad yw’n argyfwng, gallwch roi gwybod i Heddlu De Cymru drwy alw 101 neu ar-lein yn defnyddio
https://www.reporthate.victimsupport.org.uk/


Os ydych yn ansicr a yw rhyw fater yn y gymuned yn cael ei drin, rhowch wybod i’n Tîm Hyb heb betruso. Maen nhw yma i’ch helpu a’ch cynghori ar sut i fynd yn eich blaen.