Yr wythnos hon, croesawyd ein haelodau Bwrdd a’n cyfranddalwyr i ymuno â ni yn ein Cynhadledd Gydweithwyr cyn rhannu ein hadolygiad blynyddol a’n cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol diwethaf.

Roedd yn gyfle i rannu uchafbwyntiau a myfyrio ar yr 20 mlynedd diwethaf. Clywyd gan Gadeirydd y Bwrdd, Anthony Whittaker, yn ogystal â’n Prif Weithredwr cyntaf erioed, Pete Cahill. 

Yn ystod y Cyfarfod Blynyddol, ar argymhelliad y Bwrdd, cymeradwyodd y cyfranddalwyr benodi Bevan and Buckland fel archwilwyr allanol y Cwmni ar gyfer y flwyddyn nesaf. Hefyd, penderfynwyd ethol dau aelod newydd, Richard Jenkins a Mark Doubler, i’n Bwrdd.

Gwahoddwyd pob cyfranddaliwr i gyflwyno cwestiynau cyn y cyfarfod, fodd bynnag, ni chodwyd unrhyw gwestiynau felly achubodd Cadeirydd y Bwrdd, Anthony Whittaker, a’r Prif Weithredwr, Joanne Oak, ar y cyfle i ateb cwestiynau gan y rhai a oedd yn bresennol.  

Nododd un cyfranddaliwr fod y Gymdeithas wedi adrodd bod 86% o atgyweiriadau brys yn cael eu cyflawni ar y ‘tro cyntaf’ ond cwestiynodd beth oedd yr amser cyfartalog ar gyfer y 14% a oedd yn weddill. Er nad oedd y data hwn ar gael ar y pryd, cadarnhawyd bod O’r Cymoedd i’r Arfordir yn ystyried sut gallai wella’r ffordd mae’n defnyddio data, sy’n cynnwys cyflwyno metrigau mwy cadarn, wrth symud ymlaen.