Mae gosod y math cywir o ben cawod yn hanfodol i sicrhau bod eich cawod drydan yn gweithio’n ddiogel.


Mae rhai pennau cawod yn addas i’w defnyddio ar gawodydd cymysgu yn unig, gan y gallwch gyfyngu ar lif y dŵr neu ei stopio’n llwyr yn y rhain. Gall hyn olygu bod dŵr twym yn cronni, ac os oes gwasgedd, gallai ffrwydro’n annisgwyl gan ddifrodi eich cawod drydan.


Peidiwch â newid eich pen cawod eich hunan, oni bai fod gennych y math cywir a bennir gan wneuthurwr y gawod.

Cyngor am ddiogelwch yn y cartref (Link opens in new window)

Am fwy o wybodaeth am cadw eich cartref yn ddiogel, ewch i Gyngor am ddiogelwch yn y cartref