Ymunwch â ni fel Cadeirydd ein Bwrdd

Published on:

Rydym wedi bod yn darparu cartrefi diogel a hapus ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fel rhan annatod o’n cymuned leol, chwaraeir rôl allweddol gennym yn adfywiad a ffyniant parhaus Pen-y-bont ar Ogwr a De Cymru.

Rydym yn darparu dros 6,000 o gartrefi diogel a fforddiadwy, ac mae gennym bortffolio o fflatiau, garejis ac eiddo masnachol lesddaliadol. Yn ogystal â hyn, mae blwyddyn ein 20fed pen blwydd yn nodweddu lansiad ein cwmni atgyweirio a chynnal a chadw newydd, sef Llanw.

Ein nod cyffredinol yw darparu cartrefi cynaliadwy a lleoedd y mae pobl yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus ynddynt, ynghyd â chwarae rhan mewn adeiladu Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru well. 

Mae Ein Bwrdd yn chwarae rôl bwysig o ran sicrhau y gwneir y penderfyniadau iawn i sicrhau ein bod yn cyflawni ein pwrpas. Yn y pen draw, aelodau’r Bwrdd sydd mewn awdurdod, ac sy’n atebol am redeg y sefydliad er budd ein cwsmeriaid, ein cymunedau a’n cydweithwyr, gan ddarparu cefnogaeth i’r tîm arweinyddiaeth, a’i herio mewn modd adeiladol i’n galluogi i gyflawni ein hamcanion.

A hwnnw bellach ar ddiwedd ei gyfnod yn y swydd, mae ein Cadeirydd presennol o’r Bwrdd, sef Anthony Whittaker, yn paratoi i roi’r gorau iddi.

Fel y cyfryw, rydym yn chwilio am Gadeirydd newydd a fydd yn ymuno â ni ac yn chwarae rôl fel arweinydd strategol canolog yn y gwaith o gyflawni ein gweledigaeth a sicrhau bod ein gwerthoedd yn arwain ac yn diffinio ein dulliau gweithio. Mae hynny’n golygu y byddwn yn gwerthfawrogi pobl, yn meddwl mewn modd gwahanol, ac yn ddigon dewr i fwrw ymlaen â phethau er mwyn cael y maen i’r wal.

Mae hwn yn gyfle a fydd yn addas i rywun sydd wedi profi ei hun fel arweinydd strategol, sy’n gallu diffinio amcanion sefydliadol yn glir ac yna’n gallu gweithio gyda ni a’n partneriaid mewn modd effeithiol, i’w gweld yn cael eu trosi i’r hyn y gallwn ei wireddu ar lawr gwlad. Byddwch yn frwdfrydig am gymunedau, yn ymroddedig i roi cwsmeriaid wrth wraidd yr hyn a wneir gennym, ac yn ymrwymedig i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd fel busnes.

Nid yw’n hanfodol i chi feddu ar brofiad uniongyrchol o fewn y sector tai – yr hyn sy’n bwysicach na hynny yw eich dealltwriaeth o rôl y Cadeirydd a’ch gallu i’w chyflawni. Bydd gennych ddealltwriaeth wybodus am bwysigrwydd llywodraethu da, ynghyd â’r egwyddorion sy’n diffinio hynny, a byddwch yn barod i gefnogi cydweithwyr, a’u herio mewn modd adeiladol, gan greu lle i ystyried gwahanol safbwyntiau ac arbenigedd a fydd yn llywio sut yr ydym yn gweithio.

Darllenwch ein pecyn recriwtio yma, neu cysylltwch â’n hymgynghorwyr wrth gefn yn ema, sef Anne Elliott ar 07875 762 029, am drafodaeth gyfrinachol. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Ionawr 8, 2024


Sut i ymgeisio

Diolch i chi am fynegi diddordeb yn y swydd hon. Os ydych wedi darllen y wybodaeth i ymgeiswyr ac y byddech yn hoffi ymgeisio, dilynwch y canllawiau isod os gwelwch yn dda.                   

Y BROSES YMGEISIO 

Cyflwynwch eich Curriculum Vitae (CV) diweddaraf ynghyd â llythyr eglurhaol, gan sicrhau eich bod yn nodi’r cyfeirnod ema:470

Mae’n bwysig i’ch CV amlygu tystiolaeth ategol o’r modd y mae eich profiad a’ch sgiliau blaenorol yn berthnasol i’r meini prawf a amlinellwyd yn y proffil o’r swydd, a phroffil yr unigolyn y dymunir ei gael ar ei chyfer. O fewn eich CV, darparwch y canlynol os gwelwch yn dda:

  • Eich enw a’ch cyfeiriad post llawn;
  • Rhifau ffôn gwaith a’ch cartref, eich rhif ffôn symudol a’ch cyfeiriad e-bost (ON anfonir y rhan fwyaf o’r cyfathrebiadau ysgrifenedig atoch yn electronig); 
  • Rhif Yswiriant Gwladol; 
  • Hanes eich cyflogaeth (gan egluro unrhyw fylchau);
  • Eich addysg, a’r dyddiadau y cyflawnwyd eich cymwysterau;
  • Aelodaeth gyfredol o gymdeithasau/sefydliadau proffesiynol perthnasol a’u dyddiadau.

Dylid defnyddio eich llythyr eglurhaol (na ddylai fod yn fwy na 3 tudalen o hyd) i gyfleu pam y cawsoch eich denu i’r rôl, gan ddisgrifio’r modd y bydd eich profiad a’ch sgiliau’n helpu Cymoedd i’r Arfordir fapio ei phwrpas, ei chyfeiriad a’i blaenoriaethau at y dyfodol. Ystyrir bod y llythyr eglurhaol hwn yn agwedd bwysig ar eich cais, ac fe’i defnyddir i asesu’r hyn sy’n eich cymell i fod eisiau cyflawni’r rôl.

Gofynnwn i chi hefyd gwblhau Ffurflen Fonitro Cyfle Cyfartal y gellir ei lawrlwytho yma. Ni chaiff unrhyw wybodaeth a gaiff ei choladu o’r Ffurflen Fonitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth at Ddibenion Recriwtio ei defnyddio fel rhan o’r broses ddethol, a chaiff ei chadw’n gwbl gyfrinachol.

Cynhwysir yr amserlen ar gyfer y broses ddethol isod. Yn eich llythyr eglurhaol, rhowch wybod i ni p’un a yw’r dyddiadau a amlinellwyd a/neu unrhyw ddyddiadau eraill o ran pryd y byddwch ar gael ar gyfer eich asesu, yn creu problem i chi. Byddwn yn ceisio bod yn hyblyg, ond gall fod yn anodd cynnull y panel dethol y tu hwnt i’r dyddiadau dethol a hysbysebwyd oherwydd ymrwymiadau yn eu dyddiaduron.

Dychwelwch eich cais erbyn hanner dydd, ar Ionawr 8, 2024 (cyflwyniadau electronig) at ein hymgynghorwyr wrth gefn yn ‘ema consultancy limited’, gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ganlyn:

responsehandling1@emaconsultancy.org.uk

Y BROSES ASESU A DETHOL 

Caiff pob cais ei ystyried a’i asesu yn erbyn gofynion Proffil yr Unigolyn, er mwyn dewis rhestr hir gychwynnol o ymgeiswyr.

Os ydych yn llwyddiannus ar y cam hwn, bydd ema yn cysylltu â chi dros y ffôn/trwy e-bost, yn dilyn y cyfarfod cychwynnol a gynhelir gan Cymoedd i’r Arfordir i lunio rhestr hir. 

AMSERLEN

Dyddiad cau: Ionawr 8, 2024 (12yh)

Cyfweliadau sgrinio: W/D Ionawr 15, 2024

Cyfweliad ac asesiadau terfynol: Chwefror 5, 2024

YMHOLIADAU 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y swydd neu’r broses ddethol, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol â’n hymgynghorydd wrth gefn, cysylltwch ag Anne Elliott yn ema ar 07768 027837.