Cydweithwyr Diogel a Hapus
Mae iechyd a lles ein cydweithwyr yn bwysig iawn i ni. Drwy ein rhaglen ‘Ffyrdd o Weithio yn y Dyfodol’, rydym yn sicrhau bod y gweithle’n addas i anghenion bob un o’n cydweithwyr ledled y sefydliad.
Dod o hyd i’ch swydd nesaf gyda ni
Cael gwybod am ein swyddi diweddaraf
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Rydym yn gwerthfawrogi ein pobl ac eisiau eu grymuso nhw i weithio yma ble, pryd a sut mae’n siwtio eu bywydau orau yn ystod ein horiau gwaith craidd o 8am i 6pm.
Er ein bod yn cynnig trefniadau gwaith hyblyg, rydym yn dal i gredu mewn dod at ein gilydd yn ein swyddfa, depo, neu leoliadau eraill i sicrhau ein bod yn creu sefydliad ymatebol, effeithlon ac effeithiol.
Rydym yn cydnabod ei bod hi’n bwysig arbed arian ar gyfer yn hwyrach ymlaen yn ein bywydau, a dyna pam rydym yn cynnig cyfraniad hael at eich cynllun pensiwn.
Rydych chi’n talu | Rydyn ni’n talu |
4% | 6% |
5% | 7% |
6% | 8% (Uchafswm) |
Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i’n cydweithwyr gymryd egwyliau rheolaidd o’r gwaith, fel bod modd iddynt ymlacio a chael eu hegni yn ôl. Dyna pam y byddwch yn derbyn o leiaf 25 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn, gyda diwrnod ychwanegol ar gyfer bob blwyddyn, gyda diwrnod ychwanegol ar gyfer bob blwyddyn rydych chi gyda ni, hyd at uchafswm o 30 diwrnod.
Cysylltu â ni
Heblaw am rannu ein gweithgareddau a’n newyddion, mae llawer o’n cydweithwyr a’n cwsmeriaid yn rhannu gwybodaeth am brosiectau maent yn gweithio arnynt. Beth am gysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymuno â’r sgwrs?